Polisi preifatrwydd gwefan

Arfon Rhys

 Dewiswch:

> Hafan

> Cysylltu â

 

Polisi preifatrwydd

Mae'r dudalen hon yn egluro sut y byddwn yn defnyddio ac yn parchu data y byddwn yn ei gasglu gennych. Y Ddeddf Diogelu Data O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennym ddyletswydd cyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych. Nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti oni rowch ganitad i ni i wneud hynny.

Pa wybodaeth a gasglwn?

Casglwn ddau fath o wybodaeth gan ymwelwyr a safle Arfon Rhys: adborth (trwy e-byst) a gwybodaeth sy'n ymwneud a defnyddio'r safle, o briwsion a ffeiliau cofnodi.

1. Adborth

Rydym yn croesawu eich syniadau a'ch sylwadau. Gallwch gysylltu a ni drwy anfon e-bost at arfonr@yahoo.co.uk 2. Gwybodaeth am ddefnyddio'r wefan

i) Briwsion

Darnau o ddata yw briwsion a grëir pan fyddwch yn ymweld a gwefan; maent yn cael eu storio ar eich cyfrifiadur. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch, ac nid oes modd eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol. Gallwch osod eich cyfrifiadur i beidio a derbyn briwsion, ond gall hyn greu problemau i chi wrth ddefnyddio'r safle.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cysylltu a safle arall?

Mae safle Arfon Rhys yn cynnwys cysylltiadau a gwefannau eraill ar y we. Dim ond i'n gwefan ni y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, felly dylech bob amser fod yn ymwybodol pan fyddwch yn symud i wefan arall, a dylech ddarllen datganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol. Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol a roddwyd i ni i unrhyw wefan arall. Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn diweddaru'r fersiwn ar y dudalen hon. Gallwch ymweld a'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r wybodaeth a gesglir gennym, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu ag unrhyw un arall.

Cysylltiadau a gwefannau allanol

Bydd cysylltiadau a gynhwysir yng ngwefan Arfon Rhys yn arwain at wefannau eraill nad ydynt o dan ein rheolaeth. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig. Ni ddylid ystyried y broses o restru a chysylltu gwefannau fel ardystiad o unrhyw fath ac ni dderbyniwn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas a chynnwys. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Diogelu rhag firysau

Gwawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunydd a lwythir o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i'ch data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunydd a ddaw o'r wefan hon.

Hawlfraint Arfon Rhys 2008