![]() |
Gwasanaethau Arfon Rhys |
Dewiswch:
|
Mae Arfon yn cynnig nifer o wasanaethau:
HyfforddiMae'n gallu hyfforddi mewn nifer o bynciau sy'n ymwneud a adnoddau dynol ac mae wedi bod yn gwneud ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru.Hefyd mae wedi gweithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru fel hyforddwr.Mae'r ystod o bynciau penodol yn cynnwys Recriwtio a Dewis,Rheoli Gwirfoddolwyr,Gofal Cwsmer,Priflifo Rhywedd Cyfle Cyfartal,Gwaith Pwyllgor Effeithlon,Datblygu Polisau a Gwaithdrefnau, Cyfraith Cyflogaeth,Sgiliau Sylfaenol Rheoli,Cyfathrebu Effeithiol, Marchnata, Hyfforddi'r Hyfforddwr,Sgiliau Gweinyddol Swyddfa,Adeiladu Tîm,a Cynllunio Strategol.
DarlithioMae'n gallu darlithio ar bynciau adnoddau dynol ac addysgu a datblygu ac ar y cwrs Tystysgrif Addysg ôl radd, a cafodd brofiad o hyn yng Ngholeg Menai,Bangor ac ym Mrifysgol Bangor.Roedd yn dysgu ar yr MBA a ddilysir gan Brifysgol Morgannwg a'r Cwrs Tystysgrif Addysg ôl Radd a ddilysir gan Brifysgol Casnewydd ac hefyd ar gwrs NEBSM (neu'r ILM erbyn hyn)a Cyrsiau 'r CIPD yng Ngholeg Menai . Dysgodd yn yr adran Amaeth/Fforest ar rheoli adnoddau dynol ac yn yr Adran Gymdeithasol ar rheoli gwirfoddolwyr. YmgynghoriaethMae'n gallu adnabod anghenion hyfforddi fel y gwnaeth i'r Ganolgan Gydweithredol Cymru ar gyfer Undebau Credyd. Hefyd gweithiodd gyda Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf ar achosion engreifftiol o ymarfer da o brosiectau Cymunddau Gyntaf. Bu'n ymgynghorydd i gwmniau preifat ar waith adnoddau dynol lle roedd peth cyfrinachedd. Datblygu SefydliadolMae'n gallu cynorthwyo sefydliadau i ddatblygu cynlluniau strategol. Mae wedi gwneud hyn gyda sefydliadau NGO yn Rwmania ac hefyd i Gymdeithas y Cymod Rhyngwladol. Asesu a DilysuMae'n gallu asesu NVQs mewn Dysgu a Datblygu ac Adoddau Dynol, Mae'n gweithio ar y funud i City and Guilds a'r CIPD fel Dilysydd Allanol ac hefyd fel Asesydd i'r CIPD ar Dyfarniadau V1,V2 ac A1 CyfieithuMae'n gallu cyfieithu rhwng y Gymraeg a Saesneg ac yn gwneud hynny ar faterion yn y sector Addysg Bellach. |