![]() |
|
Dewiswch:> Adnoddau Dysgu ar gael yn rhad ac am ddim
|
CyflwyniadMae yna barch mawr i waith Arfon Rhys fel ymgynghorydd ar ei liwt ei hun a hyfforddwr ym maes cynllunio strategol ,adnoddau dynol ,datblygu sefydliadol, a chyfathrebu rhwng personol. Rhedir seminarau ganddo ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol , gydweithredol sy'n dymuno gwella ei effeithiolrwydd strategol, adeiladu tîm, datblygiad sefydliadol a chyfathrebu. Yn ddiweddar bu'n gweithio mewn ardaloedd Cymunedau Gyntaf ar ran Canolfan Gydweithredol Cymru a Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau Gyntaf. Mae newydd orffen ymgynghoriad ar gyfer Undebau Credyd yng Nghymru i adnabod eu hanghenion hyfforddi a'u datblygiad sefydliadol.Mae Arfon yn Gymrawd Siartredig Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad ac mae ganddo brofiad sawl blwyddyn o weithio fel rheolwr adnoddau dynol gyda nifer o gwmnïau preifat a BBC Cymru. Bu'n gweithio yng Ngholeg Menai Bangor fel rheolwr a darlithydd mewn astudiaethau Busnes a Rheolaeth ac ar y cwrs Tystysgrif Addysg ôl radd. Mae'n ddilysydd allanol ac asesydd NVQ i'r CIPD a City and Guilds.
Mae'n awdur nifer o gyhoeddiadau yn y Gymraeg ar reolaeth a gyhoeddwyd gan Menter a Busnes, a hefyd ar brosiect addysgu dwyieithog CBAC. Ei gyhoeddiad diweddaraf yw Cyflwyniad i Addysgu Oedolion a gyhoeddwyd gan Brifysgol Casnewydd yn y Gymraeg a'r SaesnegDyma fideo o Arfon yn hyfforddi/hwyluso grwp o reolwyr NGO's yn Rwmania mewn cynllunio strategaeth i'w sefydliadau mewn dull rhyngweithredol:- |